Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Gorffennaf 2017
Amser: 09.02 -
11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4165
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Andrew Hobden, Llywodraeth Cymru Jonathan Price, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
1.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu'r Pwyllgor; fe’i cynhelir yn ystod toriad yr haf.
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i fwrw ymlaen i gyflwyno'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
3.1 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru.
4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
5.1 Nodwyd y papurau.
6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru; ac Andrew Hobden, y Tîm Arfarnu a Dadansoddi Economaidd, Llywodraeth Cymru.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a'r materion allweddol a oedd wedi codi o'r ymchwiliad.
9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif ddiwrnod penodedig arfaethedig a chytunodd i ymateb i'r Llywydd.